Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (56) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13:30.
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 4 a 6 - 14. Tynnwyd cwestiynnau 5 a 15 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14:21.
3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru
Dechreuodd yr eitem am 14:37.
4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Strategaeth Pysgodfeydd Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15:07.
5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6. Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012
Dechreuodd yr eitem am 15.47
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7. Dadl: Cynllun Drafft ar Hawliau Plant i’w gymeradwyo o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
Dechreuodd yr eitem am 15.55
NDM4950 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011:
Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 20 Mawrth 2012.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r cynllun yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar gydymffurfio â’i dyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r cynllun yn cynnig cyfleoedd cryfach ar gyfer herio’n briodol os ystyrir nad yw Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r Cynllun yn darparu ar gyfer mecanwaith adrodd cadarnach sy’n mynnu bod Gweinidogion Cymru’n adrodd yn amlach i’r Cynulliad.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4950 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011:
Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 20 Mawrth 2012.
Yn gresynu nad yw’r cynllun yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar gydymffurfio â’i dyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP.
Yn gresynu nad yw’r cynllun yn cynnig cyfleoedd cryfach ar gyfer herio’n briodol os ystyrir nad yw Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP.
Yn gresynu nad
yw’r Cynllun yn darparu ar gyfer mecanwaith adrodd cadarnach
sy’n mynnu bod Gweinidogion Cymru’n adrodd yn amlach
i’r Cynulliad.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.48
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mercher, 28 Mawrth 2012